Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol
Dydd Mawrth 22 Tachwedd 2013
Ystafell Gynadledda Derwen, Hafan Cymru, Caerfyrddin
Yn bresennol
Rebecca Evans AC (Cadeirydd)
Elin Jones AC
Ann Sivapatham, Cynghrair Niwrolegol Cymru ac Epilepsy Action
Maggie Hayes, Cynghrair Niwrolegol Cymru
Alan Thomas, Cynghrair Niwrolegol Cymru ac Ataxia De Cymru
Kate Steele, Cynghrair Niwrolegol Cymru a Shine Cymru
Dr Tanya Edmonds, Niwroseicolegydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Dr Zoe Fisher, Seicolegydd Clinigol mewn Niwroseicoleg
Audrey Rogers, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Therapïau a Gwyddor Iechyd
Dr Claire Willson, Niwroseicolegydd Clinigol Ymgynghorol - Ysbyty Athrofaol Cymru
Dr Helen Payne, Seicolegydd/Niwroseicolegydd Clinigol Ymgynghorol – Hywel Dda
Jane Hodson
Sarah Price
Steve Jones, Arbenigwr Nyrsio Sglerosis Ymledol
Melanie Hayes, Shine Cymru
Sandy Mather, Cynghrair Niwrolegol Gorllewin Cymru a Chynghrair Niwrolegol De-orllewin Cymru
Ian Folks, cyn Gadeirydd Cynghrair Niwrolegol Gorllewin Cymru
Robert Messenger, Cydgysylltydd Plant ag Anghenion Cymhleth, Cyngor Sir Caerfyrddin
Colin Sanders, Hyrwyddwr Parkinsons UK Gorllewin Cymru
David Murray, Cynghrair Niwrolegol Cymru, Cure Parkinsons
Gerald Crowley, Cadeirydd Cangen y Gymdeithas Sglerosis Ymledol
Margaret Crowley, SU
Steve Walford, Ataxia De Cymru (Casnewydd a Chaerdydd)
Margaret Evans, Ataxia De Cymru
Dawn Morgan, Ataxia De Cymru
Emma Hughes, Genetics UK
Claire Hurlin, Arweinydd Cyflyrau Cronig
Ymddiheuriadau
Mark Isherwood, AC
Ana Palazon, Cynghrair Niwrolegol Cymru a'r Gymdeithas Strôc
Joseph Carter, Cynghrair Niwrolegol Cymru a Chymdeithas Sglerosis Ymledol Cymru
Urtha Felda, Cynghrair Niwrolegol Cymru
Dave Maggs, Cynghrair Niwrolegol Cymru
Kevin Thomas, Cynghrair Niwrolegol Cymru
Kathryn Davies, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd, Hywel Dda
Dr Rowena Matthews, Meddyg Teulu a Chyfarwyddwr Meddygol Hywel Dda
Catherine Poulter, Rheolwr Ardal Tîm Adnoddau Cymunedol, Cyngor Sir Caerfyrddin
Janet Lewis, Gweithiwr Cymdeithasol gydag Oedolion â Namau Niwrolegol
Simon Thomas AC
Emma Whitley, Rheolwr Ardal Tîm Adnoddau Cymunedol Sir Benfro
Paul Manning, Shine Cymru
Jan Russell, Cymdeithas Cefnogi ME a CFS Cymru
Dr Malin Falck, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol mewn Niwroseicoleg
Croesawodd Rebecca Evans AC bawb i'r cyfarfod, diolchodd i'r ganolfan, ac i Gynghrair Niwrolegol Cymru am fod yn ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol.
Cyflwynodd Rebecca Evans AC y cyflwyniadau canlynol (ticiwch ar y llun i weld y cyflwyniad PowerPoint):
1 - Cynghrair Niwrolegol Cymru – Trosolwg gan Kate Steele, Cynghrair Niwrolegol Cymru
2 - Cymorth Seicolegol i Bobl â Chyflyrau Niwrolegol yng Ngorllewin Cymru, Ian Folks – cyn Gadeirydd Cynghrair Niwrolegol Gorllewin Cymru
3 - Mae'n fwy na chrynu - Profiadau Claf/Defnyddiwr Gwasanaeth, David Murray
4 - Safbwynt Niwroseicolegydd - Dr Tanya Edmonds, Niwroseicolegydd Clinigol Ymgynghorol Arweiniol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
5 - Safbwynt Niwrolegydd, Dr Claire Hirst - Niwrolegydd Ymgynghorol, Hywel Dda
6 - Arweinydd Clinigol ar gyfer Niwroseicoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Dr Claire Willson - Arweinydd Clinigol ar gyfer Niwroseicoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Audrey Roberts, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Therapïau a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Estynnodd Rebecca Evans AC wahoddiad i Audrey Roberts Cyfarwyddwr Cynorthwyol Therapïau a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, i ymateb i'r cyflwyniadau. Dywedodd Audrey bod y wybodaeth wedi bod yn agoriad llygad. Dywedodd hefyd fod y cyflwyniadau wedi amlygu bylchau yn y gwasanaeth a ddarperir. Soniodd mor bwerus oedd cyflwyniad David Murray, a bod yr Astudiaethau Achos yn ddefnyddiol o ran mapio sut y gellir rhannu adnoddau.
Dywedodd Audrey bod Hywel Dda ar hyn o bryd yn gweithio o fewn eu
Rhaglen Iechyd Poblogaethau, sy'n edrych ar ddarparu gwasanaethau
yn fwy effeithiol. Mae niwroleg yn un o'r ffrydiau gwaith.
Bydd y wybodaeth a ddarparwyd yn y cyfarfod hwn yn cyfrannu at
hynny.
Pwysleisiodd Audrey hefyd y dylai'r rhai a oedd yn bresennol ddefnyddio ymgynghoriad y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegoli fwydo gwybodaeth yn ôl.
Crynodeb a sylwadau i gloi, Rebecca Evans AC
Diolchodd Rebecca Evans i'r rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod,
a dywedodd y byddai hi a'i chydweithiwr, Elin Jones AC (sydd hefyd
yn aelod o'r
Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol) a'r
Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau
Niwrolegolyn anelu at symud y materion a godwyd
ymlaen.
Diwedd.
*Gwybodaeth ddiweddaraf* (ychwanegwyd ar 02.12.13 – MH)
Yn dilyn cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol, ac fel yr addawodd, gofynnodd Rebecca Evans AC y cwestiwn canlynol i Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Busnes, ar 26.11.13.
Rebecca Evans:
Yn dilyn cyfarfod llwyddiannus iawn y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol yng Nghaerfyrddin ddydd Gwener, hoffwn ofyn am ddatganiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am fynediad at niwrotherapi. Clywsom sut y gall niwroseicoleg yn arbennig wella ansawdd bywyd cleifion, a’r canlyniadau i bobl â chyflyrau niwrolegol, a gall hefyd arbed arian i’r GIG trwy osgoi ymyraethau mwy costus. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod mynediad yn anghyson ac yn gyfyngedig ar hyn o bryd.
Lesley Griffiths
Diolch i chi am y cwestiwn, Rebecca Evans. Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gyflyrau niwrolegol yn ddiweddar, ynghyd â chynllun cyflawni, sydd, yn amlwg, yn cydnabod y swyddogaeth werthfawr iawn y gall niwroseicoleg a niwroseiciatreg ei chyflawni. Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd lleol gynnwys y ddarpariaeth o gefnogaeth niwroseicolegol fel un o’u blaenoriaethau penodol wrth ddarparu gwasanaethau i bobl â chyflyrau niwrolegol. Fel rwy’n dweud, mae’r cynllun drafft wedi ei gyhoeddi, a byddwn yn annog pawb i ymateb erbyn 31 Ionawr y flwyddyn nesaf.
(trawsgrifiad ar gael yma:http://www.assemblywales.org/docs/rop_xml/131126_plenary_bilingual.xml)